Mae dull newydd o gefnogi pobl sy’n galaru yn digwydd mewn parciau ar draws Cymoedd De Cymru.
Nod y rhaglen Gwneud ac Atgofion yw archwilio sut y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol gefnogi pobl i wella ar ôl trawma colled.
Mae’r sesiynau celf a chrefft rhad ac am ddim ar gael i bobl o bob oed a all fod mewn galar. Fe’u cynhelir diolch i gyllid Loteri Celfyddydau, Iechyd a Llesiant gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chawsant eu datblygu gan sefydliad celfyddydau cymunedol Celf ar y Blaen, mewn partneriaeth gyda Cruse Bereavement Care, Valleys Steps a Coed Lleol.
Os hoffech gymorth profedigaeth a’ch bod yn byw yn ardal Gwent, lawrlwythwch y ddogfen Gwybodaeth Cymorth Profedigaeth (gwaelod y dudalen) i weld lle gallwch gael mynediad i’r cymorth.
Yn lle hynny, os ydych angen cymorth ar unwaith gallwch gysylltu ag Ysbyty Brenhinol Gwent ar 01633 234234 a gofyn am yr Adran Caplaniaeth.
Cadwch olwg am ddiweddariadau pellach ar y prosiect hwn.
Gwybodaeth Cymorth Profedigaeth