Mae gan Celf ar y Blaen rai adnoddau y gallwn eu benthyca i grwpiau trwy gytundeb ar gyfer cefnogai digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol lleol Mae’r adnoddau yn cynnwys:
Offer sain a PA
Mae hynny’n cynnwys meicroffonau, desg gymysgu a seinyddion, sydd i gyd ar gael i grwpiau ac unigolion a gafodd hyfforddiant priodol ar gyfer gweithio’r offer (mae’n bosib y gallwn ni helpu gyda hyfforddiant os oes angen).
Amrywiaeth o offerynnau
Gan gynnwys allweddellau a drymiau.
Caterpilars carnifal
Rhowch hwb i’ch digwyddiad cymunedol gyda’r caterpilars carnifal lliwgar a llachar hyn. Gall pob caterpilar gael ei weithio gan 6 – 10 o gyfranogwyr ac maen nhw’n addas ar gyfer eu defnyddio gan blant a phobl ifanc.
Mae cyfarwyddiadau llawn ar gyfer eu gosod wrth ei gilydd a’u defnyddio yn gynwysedig.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’r adnoddau uchod, cysylltwch â ni a gallwn drafod eich anghenion ymhellach.
Nodwch fod yr adnoddau uchod i gyd yn ddibynnol ar argaeledd.