Cymunedau - Mentora a Gwirfoddoli

Nod Celf ar y Blaen yw hybu datblygiad proffesiynol parhaus artistiaid ym mhob lefelo o’u gyrfa trwy ddarparu’r cyfleoedd canlynol:

Mentora

Lle mae’n bosib, bydd Celf ar y Blaen yn trefnu cyfleoedd mentora ar gyfer artistiaid newydd i gysgodi artistiaid cymunedol profiadol er mwyn ennill profiad ymarferol gwerthfawr o weithio mewn cefndir cyfranogol. Yn ychwanegol, mae Celf ar y Blaen yn cymryd rhan mewn nifer o fentrau tebyg i ArtsWorks Cymru a’r Cynllun Hyfforddi Artistiaid Cymunedol – sydd ill dau yn anelu at hyrwyddo arfer gorau mewn celf gyfranogol ac yn hybu datblygiad rhai sydd â’u bryd ar weithio yn y maes.

GWIRFODDOLI

Mae gwirfoddoli gyda Celf ar y Blaen yn rhoi cyfle i unigolion ddatblygu sgiliau newydd, gan ychwanegu at eu gwybodaeth a chael profiadau newydd. Lle mae’n bosib, byddwn yn teilwrio’r cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer anghenion a diddordebau unigol. Gallai hyn gynnwys lleoliad yn swyddfa Celf ar y Blaen yn helpu gydag ystod o dasgau gan gynnwys marchnata a gweinyddu neu helpu gyda prosiect penodol gan cadw cofrestr mewn dosbarthiadau wythnosol.

Tystlythyr

Mae Celf ar y Blaen wedi bod yn fan cychwyn i gadwyn o ddigwyddiadau sydd wedi helpu fy ngyrfa fel artist dawns a drama ar fy liwt fy hun. Heb eu mewnbwn nhw dwi ddim yn meddwl y byddwn i wedi cyrraedd ble rwyf heddiw. Ar ôl ein cyfarfod cyntaf roeddwn i’n gallu gwirfoddoli yn y swyddfa am un diwrnod yr wythnos a deall yn well sut mae Celf ar y Blaen yn gweithio. Roedd pawb yn groesawgar iawn ac fe gefais gyngor da a chyfleoedd i fod yn rhan o brosiectau a chysgodi artistiaid eraill a rhwydweithio. Ddwy flynedd wedyn cymerais eu cyngor fy mod angen fy nhrafnidiaeth fy hun i weithio trwy’r cymoedd a nawr mae gyda fi gar, rwy’n cynnal dosbarthiadau dawns a drama yn rheolaidd yn y gymuned ac mewn ysgolion a thrwy hyfforddiant artist yn y gymuned mae gen i’r hyder a’r wybodaeth i weithio ar fy liwt fy hun.
Megan, Tiwtor Dawns

Cysylltwch â ni i drafod cyfleoedd ar gyfer Cynlluniau a Lleoliadau Mentora mewn mwy o fanylder.

Spread the love