Cymunedau - HYFFORDIANT I HYFFORDDWYR

Mae Celf ar y Blaen yn cynnig sesiynau hyfforddiant am ddim i hyfforddwyr mewn ystod o ffurfiau celf ar gyfer grwpiau cymunedol ar draws ardal ddwyreiniol Blaenau’r Cymoedd.

Mae’r sesiynau’n cael eu harwain gan arbenigwyr mewn cyfryngau celfyddydol sy’n arddangos sgiliau celf ac yn rhannu syniadau creadigol gan ddefnyddio sgiliau creadigol trwy ddefnyddio technegau syml sy’n hawdd eu hatgynhyrchu mewn dosbarth neu leoliad cymunedol heb fod angen defnyddiau nag offer arbenigol.

Mae’r sesiynau hyn yn cael eu hanelu at athrawon, oedolion ac aelodau hŷn grwpiau ieuenctid er mwyn eu helpu i ddatblygu sgiliau y gallan nhw eu trosglwyddo o fewn eu cymuned eu hunain i’w bwydo i ddigwyddiadau a dathliadau lleol.

Gallwch ddewis eich sesiwn hyfforddiant oddi ar y fwydlen isod:


• Gwneud Masgiau
• Gwneud Baneri
• Gwneud Llusernau
• Adrodd straeon
• Gwneud Gemwaith
• Gwneud Dillad
• Gweithio mewn Ffelt

Beth sydd angen ichi wneud i archebu sesiwn?

Gall Celf ar y Blaen ddarparu sesiynau Hyfforddiant i Hyfforddwyr yn rhad ac am ddim, ar yr amod eich bod yn gallu darparu’r canlynol:

• Lleoliad ar gyfer y sesiynau.
• Grŵp o gyfranogwyr sy’n cynnwys arweinwyr / gwirfoddolwyr allweddol o chwech o leiaf o wahanol grwpiau cymunedol yn yr ardal.
• Cysylltiadau gydag ysgol leol a sicrwydd y bydd o leiaf 3 o athrawon neu gynorthwywyr dosbarth yn bresennol (gallech hyd yn oed ystyried cynnal y sesiwn o 4pm ymlaen mewn ysgol leol fel y gallai’r athrawon ddefnyddio hyn fel sesiwn “cyfnod” hyfforddiant HMS).

Hyfforddiant i hyfforddwyr ar waith…

Yn Nhachwedd 2008, mynychodd 10 o unigolion sesiwn hyfforddi i hyfforddwyr yn Eglwys Sant Pedr, Aberbargoed
Dros yr ychydig wythnosau nesaf aeth pob unigolyn yn ôl i’w grwpiau cymunedol i drosglwyddo’r technegau gwneud llusernau yr oedden nhw newydd eu dysgu.
O ganlyniad roedd lluserni’n cael eu gwneud ym mhobman bron yn Aberbargoed – yn yr ysgol gynradd leol, yn y grŵp coffi boreol, mewn sesiwn mam a’i phlentyn, yn y clwb ieuenctid ac yn y blaen.
Erbyn Rhagfyr roedd tua 1,000 o bobl yn mynychu’r orymdaith lusernau flynyddol – a llawer ohonyn nhw’n cario llusernau wedi eu gwneud eu hunain o ganlyniad i’r sesiynau hyfforddi oedd wedi eu cynnal fis ynghynt.

Spread the love