Mae rhaglenni creadigol Celf ar y Blaen yn cynnig gweithgareddau yn Gymraeg a Saesneg sy’n anrhydeddu natur ddwyieithog Cymru.
Mae Celf ar y Blaen yn hynod falch i dderbyn statws Cynnnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg am ein hymroddiad i ddatblygu gwasanaeth dwyieithog ar gyfer artistiaid, cyfranogwyr, cynulleidfaoedd ac aelodau o’r cyhoedd.
Cynnig Cymraeg Celf ar y Blaen
- Bydd pob dogfen gyhoeddus, arwydd a deunydd marchnata ar gael yn ddwyieithog a chroesawir cyfathrebu yn y ddwy iaith.
- Caiff pob cyfle swydd eu hysbysebu’n ddwyieithog, gan roi pwysiad i sgiliau yn y Gymraeg. Anelwn sicrhau fod 25% o’r ymatebion a gyflwynir gan ymgeiswyr yn cael eu cyflwyno gan ymgeiswyr gyda sgiliau yn y Gymraeg.
- Byddwn yn cefnogi’r holl staff wrth ddysgu Cymraeg ac yn darparu cyfleoedd dysgu’r Gymraeg i o leiaf 2 ymarferydd llawrydd bob blwyddyn.
- Byddwn yn darparu ein gweithgareddau mewn ffyrdd sy’n annog y defnydd o’r Gymraeg, gan anelu i wella darpariaeth ddwyieithog gan 10% bob blwyddyn.
